Beth Rydym yn Ei Wneud
Mae'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol yn rheoleiddio ceiropractyddion yn y DU, Ynys Manaw a Gibraltar i sicrhau diogelwch cleifion sy'n cael triniaeth ceiropracteg.
Mae'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol yn rheoleiddio ceiropractyddion yn y DU, Ynys Manaw a Gibraltar i sicrhau diogelwch cleifion sy'n cael triniaeth ceiropracteg.
Rydym yn gorff statudol annibynnol a sefydlwyd gan, ac sy'n atebol i'r Senedd, i reoleiddio'r proffesiwn ceiropracteg. Rydym yn amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd trwy sicrhau safonau ymarfer uchel yn y proffesiwn ceiropracteg.
Mae'r teitl 'ceiropractydd' wedi'i warchod gan y gyfraith ac mae'n drosedd i unrhyw un ddisgrifio'i hun fel ceiropractydd heb gael ei gofrestru gyda'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol.
Rydym yn gwirio bod pob ceiropractydd, gan gynnwys y rhai o'r tu allan i'r DU, â chymwysterau priodol ac yn ffit i ymarfer. Rydym hefyd yn cymeradwyo ac yn monitro'r rhaglenni a gynigir gan ddarparwyr addysg sy'n gyfrifol am hyfforddi ceiropractyddion yn y DU.
Trwy hyrwyddo safonau a chydweithio â ceiropractyddion cofrestredig a rhanddeiliaid eraill, rydym yn helpu i gefnogi hyder y cyhoedd yn y proffesiwn a'i le o fewn y system gofal iechyd ehangach.
Y Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol: