Ynglŷn â'r Cyngor Ceiropracteg Cyffredinol (GCC)
Ni yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg. Mae ein rôl a'n gweithrediad i raddau helaeth yr un peth â'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ar gyfer meddygon, y Cyngor Deintyddol Cyffredinol ar gyfer deintyddion a'r Cyngor Fferyllol Cyffredinol ar gyfer fferyllwyr. Ni yw'r lleiaf o naw rheoleiddiwr iechyd a gofal cymdeithasol y DU.
Ein pwrpas yw amddiffyn iechyd a diogelwch y cyhoedd a datblygu'r proffesiwn ceiropracteg. Rydym yn gwneud hyn drwy osod y safonau uchaf mewn Cod Ymarfer ar gyfer ceiropractyddion, gan ymchwilio i weld a yw'r safonau hyn heb eu diwallu, a phan ganfyddir eu bod yn anaddas i ymarfer, tynnu ceiropractydd oddi ar ein Cofrestr. Rydym yn gweithio ar y cyd â'n ceiropractyddion cofrestredig, cymdeithasau proffesiynol, sefydliadau addysgol a rhanddeiliaid eraill i sicrhau bod ein safonau'n parhau i fod yn addas i'r diben ac yn unol â'n hymarfer rheoleiddio cyfredol.
Yn olaf, mae'r teitl 'ceiropractydd' wedi'i warchod gan y gyfraith. Mae'n drosedd i unrhyw un ei ddisgrifio'i hun yn geiropractydd heb fod wedi'i gofrestru gyda'r GCC.
Sut allwn ni helpu?
Isod mae pum adran addysgiadol i'ch helpu i ddewis ceiropractydd, paratoi ar gyfer eich ymweliad cyntaf, gwneud yn fawr o'ch gofal parhaus, a rhai cwestiynau cyffredin.