Dewis Ceiropractydd
Yma fe welwch drosolwg o driniaeth ceiropracteg a'r hyn y gallech ddymuno ei ystyried wrth ddewis ceiropractydd
Yma fe welwch drosolwg o driniaeth ceiropracteg a'r hyn y gallech ddymuno ei ystyried wrth ddewis ceiropractydd
Ein rôl ni yw sicrhau canlyniadau gwell i’n cleifion. Fodd bynnag, rhan hollbwysig o brofiad cyffredinol y claf yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda chleifion ac yn eu trin yn ddiogel.
Elisabeth Angier, Clinig Ceiropracteg Dyffryn Gwy
Mae ceiropractyddion yn weithwyr iechyd proffesiynol cymwys sy'n gallu asesu, gwneud diagnosis a thrin ystod eang o gyflyrau, megis poen cefn a gwddf, mân anafiadau chwaraeon a chlunwst.
Gall triniaeth ceiropracteg fod yn fuddiol am nifer o resymau; lleddfu symptomau poen ac anesmwythder, gwella symudedd a lleihau anabledd sy'n gysylltiedig â phroblemau cyhyrau a chymalau.
Mae ceiropractyddion wedi'u hyfforddi i ddefnyddio amrywiaeth o dechnegau wrth drin eu cleifion. Maent yn fwyaf adnabyddus am ddefnyddio dulliau gofal â llaw, gan gynnwys trin asgwrn cefn a chymalau (a elwir hefyd yn ‘addasu’) ond gallant hefyd ddefnyddio dulliau ymarferol eraill neu ddulliau â chymorth offeryn.
Bydd llawer o geiropractyddion hefyd yn darparu cyngor ynghylch ffordd o fyw ac ymarferion i'ch helpu i reoli'ch cyflwr. Gallai hyn gynnwys cyngor dietegol a maethol yn ogystal â strategaethau i reoli straen ac anghysur.
Cyn dechrau triniaeth, bydd ceiropractydd yn asesu'ch symptomau i benderfynu a yw triniaeth ceiropracteg yn briodol i chi a'ch cyflwr, a pha dechnegau sydd fwyaf tebygol o wneud hynny. Mae ceiropractyddion wedi'u hyfforddi i nodi pan na fydd triniaeth ceiropracteg yn helpu cyflwr meddygol a byddant yn gwneud atgyfeiriad i'ch Meddyg Teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall, os oes angen.
Mae ceiropractyddion yn weithwyr gofal iechyd proffesiynol rheoledig. Er mwyn ymarfer yn y DU, mae'n rhaid i geiropractydd fod wedi'i gymhwyso ac wedi'i gofrestru gyda'r GCC. Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un ddisgrifio'i hun yn geiropractydd heb fod wedi'i gofrestru gyda'r GCC.
Wrth ddewis ceiropractydd, mae'n hanfodol eich bod yn gwirio i sicrhau eu bod wedi'u cofrestru gyda'r GCC.
Gallwch wneud hyn trwy ddefnyddio ein peiriant chwilio Dod o Hyd i Geiropractydd .
Yn olaf, er bod rhai ceiropractyddion yn cynnig gwasanaethau drwy'r GIG, mae'r rhan fwyaf yn gweithio yn y sector preifat. Mae hyn yn golygu y byddwch yn gyfrifol am dalu costau triniaeth, naill ai'n breifat neu drwy eich yswiriwr iechyd.
Beth i'w ddisgwyl o'ch ymweliad cyntaf â cheiropractydd ar gyfer eich asesiad cychwynnol
Darganfyddwch fwyBeth fydd yn digwydd ar ôl i chi gydsynio i'r cynllun gofal
Darganfyddwch fwyI'ch helpu, rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae'r GCC yn eu derbyn gan y cyhoedd Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau o hyd, cysylltwch â ni
Darganfyddwch fwyY GCC yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg. Os yw ceiropractydd wedi'i gofrestru gyda'r GCC gallwch fod yn hyderus ei fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Darganfyddwch fwy