Skip to main content

"Rhaid i geiropractydd gael caniatâd i ddarparu triniaeth ar yr ymweliad cyntaf a sicrhau eich bod yn deall ei ddiagnosis a'r canlyniad disgwyliedig"

Eich ymweliad cyntaf: yr asesiad cychwynnol

Cyn dechrau unrhyw driniaeth ac i benderfynu ar y cynllun gofal gorau, bydd eich ceiropractydd yn cynnal asesiad cychwynnol o'ch iechyd. Bydd hyn yn cynnwys casglu gwybodaeth am eich cyflwr, agweddau perthnasol ar eich ffordd o fyw a'ch hanes iechyd presennol a'r gorffennol. Yn ogystal, bydd eich ceiropractydd fel arfer yn gwneud archwiliad corfforol a gallai argymell ymchwiliadau pellach, megis pelydrau-X.

Efallai y bydd rhannau o'r asesiad yn gofyn i chi dynnu eitemau o ddillad. Os felly, cynigir gŵn i chi.


Triniaeth a chynllun gofal

Yn dilyn eich asesiad cychwynnol, bydd eich ceiropractydd yn rhoi esboniad i chi o'i ganfyddiadau, pa opsiynau triniaeth a argymhellir sydd ar gael a manteision a risgiau gofal.

Bydd hefyd yn esbonio opsiynau triniaeth amgen a beth fydd yn digwydd os na fydd eich cyflwr yn gwella yn ôl y disgwyl. Gallai hyn gynnwys eich atgyfeirio i weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.

Ar bob cam o driniaeth a gofal, byddwch yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau ar y cyd â'r ceiropractydd.

Unwaith y bydd yr ymweliad asesu cychwynnol wedi'i gwblhau, bydd y ceiropractydd yn creu cynllun gofal, y bydd yn ei drafod gyda chi ac yn ateb unrhyw gwestiynau. 


Amserlenni a chost

Eich ymweliad cyntaf hefyd yw pryd y dylech drafod amserlenni ar gyfer triniaeth a chostau. Dylid dod i gytundeb ar sut y disgwylir i chi dalu am eich triniaeth. Dysgwch, ymlaen llaw, am y polisïau canslo sydd wedi eu sefydlu.


Caniatâd y claf

Dim ond pan fyddwch chi'n hapus i symud ymlaen ac yn deall goblygiadau'r driniaeth, gan gynnwys y gost, y bydd y ceiropractydd yn gofyn am eich caniatâd i ddechrau triniaeth.


Nesaf: gwneud yn fawr o'ch gofal parhaus

Dewis Ceiropractydd

Yma fe welwch drosolwg o driniaeth ceiropracteg a'r hyn y gallech ddymuno ei ystyried wrth ddewis ceiropractydd

Darganfyddwch fwy

Gwneud yn fawr o’ch gofal parhaus

Beth fydd yn digwydd ar ôl i chi gydsynio i'r cynllun gofal

Darganfyddwch fwy

Cwestiynau Cyffredin

I'ch helpu, rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae'r GCC yn eu derbyn gan y cyhoedd Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau o hyd, cysylltwch â ni

Darganfyddwch fwy

Sut mae’r GCC yn helpu i sicrhau gofal o safon

Y GCC yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg. Os yw ceiropractydd wedi'i gofrestru gyda'r GCC gallwch fod yn hyderus ei fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.

Darganfyddwch fwy