Sut mae’r GCC yn helpu i sicrhau gofal o safon
Y GCC yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg. Os yw ceiropractydd wedi'i gofrestru gyda'r GCC gallwch fod yn hyderus ei fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Y GCC yw rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg. Os yw ceiropractydd wedi'i gofrestru gyda'r GCC gallwch fod yn hyderus ei fod wedi ymrwymo i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Rhaid i geiropractyddion cofrestredig fodloni'r safonau uchaf o ran ymddygiad proffesiynol fel y'u nodir yng Nghod Ymarfer y GCC. Mae hyn yn cynnwys bod ganddynt y cymwysterau priodol, eu bod wedi'u cofrestru gyda'r yswiriant priodol. Mae'n rhaid iddynt hefyd gynnal eu sgiliau a'u gwybodaeth trwy Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus.
Mae'r GCC yn cynnal y Gofrestr o weithwyr ceiropracteg proffesiynol. Dim ond os ydynt yn dangos safonau uchel o ddiogelwch a chymhwysedd y gellir cofrestru ceiropractyddion Os yw ceiropractydd yn methu â bodloni Cod y GCC, gellir ei atal rhag gweithio'n geiropractydd.
Mae'n anghyfreithlon i unrhyw un ei ddisgrifio ei hun yn geiropractydd neu honni ei fod yn geiropractydd heb fod wedi'i gofrestru gyda'r GCC.
Mae’r GCC yma i helpu’r cyhoedd, cleifion a phersonau cofrestredig. Fodd bynnag, ni allwn ddarparu unrhyw gyngor iechyd na meddygol. Os oes gennych bryderon iechyd neu feddygol, rydym yn eich cynghori i gysylltu â'ch Meddyg Teulu. Nhw sydd yn y sefyllfa orau i roi'r gofal a'r cyngor gorau i chi.
Os oes gennych bryderon ynghylch ceiropractydd neu driniaeth a ddarparwyd, rydym yn eich cynghori i siarad â'r ymarferydd neu'r clinig. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosibl neu os ydych yn dal yn anfodlon, gallwch gysylltu â'r GCC.
Yn rheoleiddiwr y DU ar gyfer y proffesiwn ceiropracteg, byddwn yn ymchwilio i bryderon a chwynion am geiropractyddion a wneir gan gleifion, eu teuluoedd, aelodau'r cyhoedd neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill, gan gynnwys cyd-geiropractyddion.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.
Yr Awdurdod Safonau Proffesiynol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PSA), sydd â'r rôl o amddiffyn cleifion, hyrwyddo arfer gorau, ac annog rhagoriaeth ymhlith holl reoleiddwyr iechyd a gofal cymdeithasol y DU.
Mae'r PSA yn adolygu perfformiad yr holl reoleiddwyr gofal iechyd yn flynyddol ac yn cyhoeddi adroddiad adolygu perfformiad ar ei wefan.
Mae'r GCC yma i amddiffyn y cyhoedd a chleifion. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon ynghylch ceiropractydd, gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg.
Yma fe welwch drosolwg o driniaeth ceiropracteg a'r hyn y gallech ddymuno ei ystyried wrth ddewis ceiropractydd
Darganfyddwch fwyBeth i'w ddisgwyl o'ch ymweliad cyntaf â cheiropractydd ar gyfer eich asesiad cychwynnol
Darganfyddwch fwyBeth fydd yn digwydd ar ôl i chi gydsynio i'r cynllun gofal
Darganfyddwch fwyI'ch helpu, rydym wedi ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae'r GCC yn eu derbyn gan y cyhoedd Fodd bynnag, os oes gennych gwestiynau o hyd, cysylltwch â ni
Darganfyddwch fwy